Pethe Bach Aur
Al Lewis Band
Formats | Tracks | Price | Buy |
---|---|---|---|
CD Album | 10 tracks | £9.99 | |
Download Album (FLAC) | 10 tracks | £7.99 | |
Download Album (MP3) | 10 tracks | £7.99 | |
Download Album (WAV) | 10 tracks | £7.99 | |
Download individual tracks | From £0.99 |
Description
Al Lewis Band - Pethe Bach Aur
Mae Al Lewis yn falch o gyhoeddi ei chweched albwm 'Pethe Bach Aur'.
Dyma'i bedwaredd albwm yn y Gymraeg a'r gyntaf i Al ei gynhyrchu a'i recordio yn ei stiwdio newydd ‘Stiwdio’r Bont’ yng Nghaerdydd.
Ma na westeion arbennig ar yr albwm gan gynnwys - Kizzy Crawford (Dianc o’r Diafol) a'r ZimVoices (Pan Fyddai yn Simbabwe)
Mae Al hefyd wedi creu fersiynnau newydd o dair gân adnabyddus ar yr albym gan gynnwys - Gyda Gwên (Catatonia) // Caru’n Ara (Caryl Parry Jones) // Môr o Gariad (Meic Stevens)
Yn ogystal â’i albwms Cymraeg mae Al wedi rhyddhau 2 albwm Saesneg - ‘In the Wake’ (2011) a chafodd ei enwebu ar gyfer y ‘Wobr Gerddoriaeth Gymreig’ a Battles (2013) ble gafodd y sengl ‘Make a Little Room’ ei ychwanegu ar y BBC Radio 2 ‘playlist’. Mae Al wedi ennill camoliaeth a chefnogaeth gan DJs adnabyddus fel Bob Harris, Dermot O'Leary a Janice Long ar BBC Radio 2.
Yn 2013 fe ryddhawyd cân Nadoligaidd wedi’i seilio ar waith Dylan Thomas o’r enw ‘A Child’s Christmas in Wales’. Fe lwyddodd Al unwaith eto i gael y sengl ar y BBC Radio 2 ‘playlist’ a dyma fu’r gân gyntaf erioed i gynnwys geiriau yn y Gymraeg i ymddangos ar y ‘playlist’.
Yn ogystal a’i waith unigol mae Al yn rhan o’r ddeuawd llwyddianus Lewis & Leigh efo Alva Leigh o Mississippi a'r grwp GLASLYN efo Kayla Painter o Fryste.